Sioe Nadolig Cyw 2025

Taniwch y sled, mae Sioe Nadolig Cyw ar daith o amgylch Cymru!

Bydd Cyw a’r criw yn cynnal perfformiadau o’r sioe yn Felinfach, Llandysul, Llanelli, Y Barri, Y Bala, Caernarfon a Wrecsam. Bydd hefyd sesiynau arbennig ym mhob lleoliad lle bydd gwasanaeth hyrwyddo BSL yn cael ei gynnig. 

Yn ymuno â Cyw ar y daith Nadolig bydd Griff, Cati a Dafydd, cyflwynwyr Cyw, ac wrth gwrs bydd Tref y ci direidus, y môr leidr Ben Dant, Siôn Corn a Cyw i gyd yno!

Mae’r tocynnau ar werth nawr!

I brynu tocynnau ar gyfer Theatr Felinfach, cysylltwch â theatrfelinfach.cymru
I brynu tocynnau ar gyfer Neuadd William Aston, cysylltwch â williamastonwrexham.com.
Ar gyfer pob lleoliad arall, cysylltwch â galericaernarfon.com

Dewch i ganu!

Beth am ddysgu caneuon y Sioe cyn dod i’n gweld ni?