Mae Sioe Nadolig Cyw gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn dod i Venue Cymru – ac mae cyfle i BAWB wylio a mwynhau!

Bydd sioe y prynhawn yn cael ei FFRYDIO’N FYW am 1:30 yp. Gallwch lawrlwytho pecyn o weithgareddau isod!

Mae hi’n Nadolig ym Myd Cyw ac mae Tref y ci, Huw, Griff, Elin, Dafydd, Cati a Sali Mali yn methu aros i Cyw ddod adre i ddathlu’r Nadolig. Maen nhw wrthi yn paratoi ar gyter y diwrnod mawr pan ddaw galwad gan Cyw i ddweud bod yna argyfwng! Tybed a ddaw Cyw adre ar gyfer y Nadolig ac a oes digon o amser i Siôn Corn lenwi ei sled? Efallai gall Deian a Loli helpu!

Mae cyfle I BAWB wylio a mwynhau Sioe Nadolig Cyw a’r Gerddorfa

Bydd sioe 1:30yp yn cael ei FFRYDIO’N FYW.

I wylio ewch i s4c.cymru/clic

I helpu Seren, o’r blaned Asra i achub diwrnod Nadolig ym Myd Cyw, cofiwch liwio a thorri allan y seren hud!

Dysgwch yr holl ganeuon ar ein sianel Youtube fan hyn: