Sigldigwt Byw
Bob dydd Mercher am 4:25yh!
Os wyt ti eisiau’r cyfle i ennill gwobrau mawr, cofrestra i chwarae Ffranc y Ffwlbart nawr drwy ffonio 08000 72 78 77
Termau ac Amodau llawn
- Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru TV Cyf. (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
- Am y cyfle i gystadlu mae rhaid unai ffonio a chofrestru yn ystod yr wythnos sy’n arwain i fyny at y dyddiad darlledu’r rhaglen neu ffonio ar y diwrnod y darlledir y rhaglen. Os fydd y cystadleuydd yn derbyn ymateb peiriant ateb, gofynir i chi adael eich enw a’ch rhif ffôn a bydd aelod o’r tîm cynhyrchu yn cysylltu yn ôl gyda’r cystadleuydd cyn rhoi ei enw yn y twba.
- Mae’r alwad ffôn am ddim o ffôn y tŷ ond gall gostio o ffôn symudol yn ddibynnol ar y darparwr. Mae’r costau yn amrywio, felly dylid cysylltu â chyflenwr y gwasanaeth ffôn am gadarnhad o’r costau.
- Rhaid i ymgeisydd fod o dan 16 oed i gystadlu.
- Rhaid i ymgeisydd ofyn caniatâd rhiant neu warchodwr cyn ffonio.
- Dewisir cystadleuwyr ar hap.
- Bydd gwobrau i’w hennill ar bob rhaglen
- Os na fydd y Cwmni yn derbyn ymateb gan gystadleuydd, cedwir yr hawl i ddewis cystadleuydd arall.
- Mae pob cystadleuydd sy’n cystadlu yn fyw ar y rhaglen yn ennill gwobr.
- Mae’r llinellau yn cau am 16.45 ar ddiwrnod darllediad y rhaglen ar gyfer cymryd rhan yn y rhaglen honno.
- Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr.
- Nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
- Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
- Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu cyrraedd.
- Dehonglir cymryd rhan yn y gystadleuaeth fel ymrwymiad i’r rheolau hyn.
- Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r defnydd o’ch data personol cyfeiriwch at bolisi preifatrwydd y Cwmni https://www.boomcymru.co.uk/polisiau-preifatrwydd-boom-cymru/a pholisi preifatrwydd S4C http://www.s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/16717/polisi-preifatrwydd/
- Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r gystadleuaeth yna cysylltwch â Nia Elin yn Boom Cymru ar 02922 450 000
- Mae cystadleuaeth ffôn Sigldigwt Byw yn cael ei chynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.