Gallwch anfon eich cyfarchion am adegau arall y flwyddyn PEDAIR wythnos cyn y penblwydd trwy’r wefan isod, neu drwy ebostio llun, cyfarchiad a dyddiad geni at cyw@s4c.cymru
Mae angen caniatâd rhiant/gwarchodwr y plentyn i gynnwys y cyfarchiad ar Cyw.
Gorau po gliriaf eich llun bob amser. Cofiwch fod y llun yn cael ei chwyddo er mwyn cael ei ddangos ar y teledu, felly gall ffeiliau bach golli ansawdd a bod yn anodd neu’n amhosib eu defnyddio.
Rydyn ni wedi rhoi’r canllawiau cyflym isod at ei gilydd i’ch helpu i ddewis y llun gorau ac osgoi siom. Os nad ydy ansawdd y llun yn ddigonol, bydd y tîm cynhyrchu yn cysylltu i ofyn am lun arall.
Mae’r telerau ac amodau yma yn cadarnhau’r termau ynglŷn â chaniatáu cynnwys y llun ar wasanaeth Cyw (“Y Deunydd”).
1. Rydych chi’n rhoi i Boom Cymru neu unrhyw berson a awdurdodwyd gan Boom Cymru, drwydded an-ecsgliwsif am byth i recordio, gwneud copi, golygu, atgynhyrchu, a darlledu holl, neu ran o’r Deunydd ar gyfer cynhyrchu, hyrwyddo, ymelwa’n fyd eang am byth.
2. Rydych yn yn gwarantu ac yn cadarnhau eich bod yn rhydd a heb gyfyngiad i allu ymrwymo i’r telerau hyn ac i roi’r holl hawliau y cyfeiriwyd atynt ym mhwynt 1, a thrwy ymarfer yr hawliau yma ni fydd (a) yn tresmasu ar unrhyw hawlfraint, neu unrhyw hawliau personol neu eiddo sy’n perthyn i unrhyw berson arall neu yn dor gytundeb neu dorri rheolau, (b) rhoi hawl i berson arall hawlio taliad gan Boom Cymru neu (c) unrhyw berson sydd yn ymddangos yn y Deunydd sydd wedi rhoi ei ganiatâd er mwyn galluogi Boom Cymru i ymelwa mewn unrhyw fodd neu unrhyw gyfrwng yn fyd eang ac yng nghyfnod cyflawn yr hawlfraint.
3. Rydych yn indemnio’r Cwmni yn erbyn pob achos, cyfreitha, cost, iawndal, colled a hawliad (gan gynnwys heb gyfyngiad, costau cyfreithiol ac unrhyw gostau a dalwyd o dderbyn cyngor Cwnsel) a allai godi yn sgil y ffaith eich bod wedi torri neu fethu a chadw at y gwarantiadau neu’r ymrwymiadau a gynhwysir yn y ffurflen hon.
4. Rydych yn cytuno y bydd y wybodaeth a roddir ar y ffurflen hon yn cael ei rannu a’i gadw gan S4C a Boom Cymru. Am ragor o wybodaeth cyfeiriwch at polisi preifatrwydd Boom Cymru a Pholisi preifatrwydd S4C
5. Rheolir y Termau ac Amodau hyn gan gyfraith Cymru a Lloegr ac fe’i dehonglir yn unol â’r gyfraith honno. Rheolir y Termau ac Amodau hyn gan gyfraith Cymru a Lloegr ac fe’i dehonglir yn unol â’r gyfraith honno. Bydd Boom Cymru yn prosesu eich gwybodaeth yn unol â pholisi preifatrwydd y cwmni https://www.boomcymru.co.uk/polisiau-preifatrwydd-boom-cymru/
6. Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan y rhai sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys plant ifanc anabl a phlant o gefndiroedd ethnig amrywiol.