Cywion Bach – help i rieni a gwarchodwyr

Mae Cywion Bach yn gyfres i fabis 0-3 a rhieni/gwarchodwyr sy’n ddi hyder eu hiaith neu’n ddysgwyr, ac yn adnodd syml i ddysgu’r Gymraeg gam wrth gam, ochr yn ochr â’u plant.

Gwyliwch y gyfres gyfan ar Youtube Cyw!

Dyma’r geiriau sy’n cael eu cyflwyno yn y gyfres.

 

Ar safle Saesneg gwefan Cyw mae yna ddeunyddiau er mwyn helpu pawb i gael mynediad i fyd y Cywion Bach- geiriau caneuon y gyfres a thaflenni gwaith syml, gyda chyfieithiad Saesneg.

 

Ac mae gan Ap Cywion Bach gemau syml i blant i gryfhau geiriau’r gyfres

Mae ein partner Mudiad Meithrin, yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd ac adnoddau i helpu rhieni newydd, ac maen nhw’n arbennig o groesawgar i rieni sy’n newydd i’r Gymraeg. Dyma rai o’r pethau maen nhw’n eu cynnig.

  • Sesiynau hwyliog  Clwb Cwtsh sy’n cynnig cyfle i rieni a gwarchodwyr ddechrau ar eu taith gyda’r Gymraeg, ar lein ac am ddim

  • Mae Cymraeg i Blant yn cefnogi rhieni o’r cyfnod beichiogrwydd ymlaen, ac yn gyfle i gwrdd â rhieni eraill, mynychu sesiynau gwybodaeth ddefnyddiol ar-lein, cymryd rhan mewn gweithgareddau  fel ioga babi a thylino babi , ac hefyd dechrau defnyddio’r Gymraeg fel teulu.

  • Mae Cylch Ti a Fi yn gyfle i blant ( 0-2 oed, ond mae croeso i bob plentyn) ddechrau chwarae gyda ffrindiau, ac i rieni a gofalwyr gwrdd am baned. Mae Cylchoedd Ti a Fi yn cyflwyno teuluoedd i’r Gymraeg, ac mae croeso mawr i bawb mewn awyrgylch gefnogol a Chymreig.

  • Mae croeso mawr i bawb yng ngwasanaethau Mudiad Meithrin beth bynnag eu iaith.