Ydych chi eisiau llongyfarch rhywun am fod yn Seren yr Wythnos? Efallai eich bod chi’n adnabod rhywun sydd wedi ennill tystysgrif am nofio, wedi bod yn ffrind caredig, wedi sgorio gôl, wedi dysgu reidio beic neu hyd yn oed wedi helpu Nain i arddio – unrhyw beth! Anfonwch lun o’ch Seren aton ni at cyw@s4c.cymru ac efallai y bydd yn ymddangos ar Cyw ar fore Sadwrn!
- Mae’r eitem yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
- Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu.
- I gymryd rhan yn Seren yr Wythnos, mae’n rhaid i unigolion ebostio llun o blentyn sydd wedi cyflawni rhywbeth arbennig i cyw@s4c.cymru.
- Bydd unrhyw lun sy’n cael ei ddangos ar Cyw yn derbyn pecyn Cyw.
- Nid yw’r Cwmni yn cymryd cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd.
- Trwy gysylltu i gymryd rhan yn yr eitem, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
- Dim ond at ddibenion gweinyddu’r eitem y bydd Boom Cymru ac S4C yn defnyddio’r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru y gallwch eu gweld drwy ymweld â’r wefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd. Gellir dod o hyd i Bolisi Preifatrwydd S4C yn www.s4c.cymru/privacypolicy.shtml
- Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r eitem, cysylltwch â thîm Cyw yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.
- Byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatâd i ddangos y llun o’r plentyn ar ddarllediad teledu a gwefan Cyw. Os na fyddwn yn gallu sicrhau’r caniatâd yma, ni fydd y llun yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o’r eitem.