Diolch i bawb sydd wedi cysylltu, mae’r ymateb wedi bod yn wych! Gwyliwch allan ar ein cyfrifon cymdeithasol am gyhoeddiadau am ddigwyddiadau Cyw dros y misoedd nesaf.
- Mae ymweliad Helo Cyw yn agored i ysgolion (Dosbarth Derbyn ac Iau), Cylch Ti a Fi, Cylch Meithrin (“Sefydliad”) yng Nghymru.
- I ddatgan diddordeb mewn cael ymweliad gan gyflwynwyr Cyw mae’n rhaid ebostio cyw@s4c.cymru a chynnwys ychydig o wybodaeth am y Sefydliad yn yr ebost.
- Mi fydd criw Helo Cyw yn ymweld â’r Sefydliadau rhwng Ionawr 2024 a Rhagfyr 2024 ac eithrio mis Awst.
- Mi fydd criw Helo Cyw yn cysylltu gyda’r Sefydliadau sydd wedi cael eu dewis ymlaen llaw i drefnu’r ymweliad.
- Ni fydd modd newid dyddiad yr Ymweliad a gynigir i’r Sefydliad os yw’r dyddiad yn anghyfleus.
- Byddwn yn tynnu lluniau ac yn cadw’r hawl i fflmio’r ymweliadau a’u rhoi ar wasanaeth Cyw, gwefan a chyfryngau cymdeithasol Cyw.
- Oherwydd y nifer disgwyliedig o geisiadau ni fydd hi’n bosib ymateb i bob ebost.
- Ni fydd hi’n bosib i griw Helo Cyw ymweld â phob Sefydliad sy’n cysylltu.
- Ni fydd angen i’r sefydliad dalu unrhyw gostau.
- Mae penderfyniad Boom Cymru’n derfynol.
- Trwy gysylltu i gael ymweliad gan griw Helo Cyw rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
- Dim ond at ddibenion gweinyddu Helo Cyw y bydd Boom Cymru ac S4C yn defnyddio’r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru y gallwch eu gweld drwy ymweld â’r wefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd. Gellir dod o hyd i BolisiPreifatrwydd S4C yn www.s4c.cymru/privacypolicy.shtml
- Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â Helo Cyw yna cysylltwch â thîm Cyw yn Boom Cymru ar 029 20 550 550