Cystadleuaeth Diwrnod y Llyfr

Llongyfarchiadau MAWR i Erin, Ceiri a Dafydd ac Arran ac Elena, enillwyr ein cystadleuaeth diwrnod y llyfr. Llongyfarchiadau hefyd i Ysgol Rhos Helyg, sydd wedi ennill ymweliad gan Fardd Plant Cymru!

Rheolau’r gystadleuaeth
- Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
- Rhaid i’r plant sy’n ymddangos yn y lluniau fod o dan 16 oed i gystadlu. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion, dosbarthiadau ac ysgolion cyfan.
- I gystadlu mae rhaid anfon llun drwy e-bostio cyw@s4c.cymru o blentyn yn dathlu Diwrnod y Llyfr, mwynhau darllen eu hoff lyfr Cymraeg, neu wedi gwisgo i fyny fel cymeriad o lyfr Cymraeg. Mae rhaid i ddosbarthiadau ac ysgolion anfon llun o’r plant naill ai yn dathlu Diwrnod y Llyfr neu yn darllen llyfr Cymraeg neu wedi gwisgo i fyny fel cymeriad/au o lyfr Cymraeg.
- Trwy gystadlu rydych yn sicrhau eich bod wedi derbyn caniatâd gan riant/gwarchodwr bob plentyn i’w dangos ar Ddolenni, Gwefan a Chyfryngau Cymdeithasol Cyw ac S4C.
- Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a’r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
- Cyhoeddir yr enillwyr ar yr Awr Fawr a gwefan a chyfrifon cymdeithasol Cyw ar y 5ed o Fawrth, 2026.
- Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner dydd, y 5ed o Fawrth 2026.
- Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan Gyflwynwyr Cyw. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
- Bydd tri enillydd unigol yn derbyn pecyn o lyfrau Cyw a bydd y dosbarth neu ysgol fuddugol yn derbyn pecyn o lyfrau ac ymweliad gan Fardd Plant Cymru. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
- Nid yw’r Cwmni yn cymryd cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd.
- Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
- Dim ond at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth y bydd Boom Cymru ac S4C yn defnyddio’r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru y gallwch eu gweld drwy ymweld â’r wefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd. Gellir dod o hyd i Bolisi Preifatrwydd S4C yn www.s4c.cymru/privacypolicy.shtml
- Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r gystadleuaeth yna cysylltwch â thîm Cyw yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.
- Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan y rhai a dangynrychiolir, gan gynnwys plant ifanc anabl a phlant o gefndiroedd ethnig amrywiol.