Hoffech chi weld plant eich dosbarth, meithrinfa, Cylch Ti a Fi neu Cylch Meithrin ar Cyw?

Cysylltwch â ni, a byddwn ni’n anfon tegan meddal Cyw neu un o’r anifeiliaid eraill i’ch lleoliad chi. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw tynnu 3 llun o’r cymeriad yn mwynhau gyda’r plant – yn chwarae, tynnu llun neu greu, mynd am dro neu’n cael byrbryd blasus efallai! Yna, anfonwch y lluniau aton ni ar cyw@s4c.cymru, ac efallai y byddan nhw’n ymddangos ar Cyw ar fore Sul!