Wyt ti eisiau ennill crys pêl-droed Cyw?

Lawrlwytha’r llun isod,  ei liwio a’i addurno a’i anfon i cyw@s4c.cymru am gyfle i ennill un o dri crys pel-droed Cyw.

Neu beth am fynd ati i dynnu llun o dy grys pêl-droed delfrydol a’i ebostio aton ni cyn 12:00 ar Tachwedd 28, 2022. Pob lwc!

 

 

 

  1. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
  2. Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion, dosbarthiadau ac ysgolion cyfan.
  3. I gystadlu mae rhaid i unigolion ebostio llun o gynllun crys pel-droed unigryw. Mae templed crys ar wefan Cyw i’w ddefnyddio neu mae’n bosib tynnu llun o grys. Dylid gyrru lluniau o’r crys i cyw@s4c.cymru.
  4. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a’r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
  5. Cyhoeddir yr enillydd ar yr Awr Fawr, a gwefan a chyfrifon cymdeithasol Cyw ar yr 2il o Ragfyr, 2022.
  6. Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner dydd, 28ain o Dachwedd 2022.
  7. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
  8. Bydd y tri unigolyn buddugol yn derbyn crys pel-droed Cyw. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
  9. Nid yw’r Cwmni yn cymryd cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd.
  10. Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
  11. Dim ond at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth y bydd Boom Cymru ac S4C yn defnyddio’r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru y gallwch eu gweld drwy ymweld â’r wefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd. Gellir dod o hyd i Bolisi Preifatrwydd S4C yn www.s4c.cymru/privacypolicy.shtml
  12. Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
  13. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r gystadleuaeth yna cysylltwch â thîm Cyw yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.
  14. Os oes plentyn mewn llun / fideo, byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatâd i ddangos y lluniau ar ddarllediad teledu a gwefan Cyw. Os na fyddwn yn gallu sicrhau’r caniatâd yma, ni fydd y llun yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o’r gystadleuaeth.