Oes gen ti ddawn i ddeud jôcs, yn dda am jyglo neu wrth dy fodd yn dawnsio disgo? Beth bynnag dy dalent, ‘da ni eisiau ei weld e! Gyrra fideo aton ni yn dangos dy dalent ac efallai mai chdi fydd yn ymddangos ar yr Awr Fawr ar ddyddiau Iau ar – Talent-Iau! Pob lwc!

 

Rheolau

  1. Mae’r cynnig yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r cynnig.
  2. Rhaid i ymgeiswyr fod dan 12 oed i gymryd rhan
  3. I ymuno mae rhaid ebostio fideo neu lun o’ch talent gyda neges fer at cyw@s4c.cymru
  4. Y Cwmni fydd yn dewis fideo neu lun ar gyfer ei ddarlledu a  byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatad rhiant neu warchodwr i ddangos y llun(iau) neu fideo  ar ddarllediad teledu, gwefan a chyfrifon cymdeithasol Cyw. Byddwn yn cysylltu ag ysgolion a chylchoedd meithrin i sicrhau bod rhiant / gwarchodwr yr holl unigolion sy’n ymddangos yn y fideo neu llun wedi arwyddo polisi cyfryngau cymdeithasol a darlledu yr ysgol neu gylch meithrin. Os na fyddwn yn gallu sicrhau’r caniatad yma, ni fydd y fideo/llun yn cael ei ddangos.
  5. 5. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
  6. Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd.
  7. Does dim dyddiad cau i’r cynnig a does dim gwobr am anfon y fideo/llun aton ni.
  8. Trwy gysylltu i gymryd rhan yn y cynnig, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
  9. Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
  10. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yna cysylltwch â cyw@s4c.cymru
  11. Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan y rhai a dangynrychiolir, gan gynnwys plant ifanc anabl a phlant o gefndiroedd ethnig amrywiol.
  12. Dim ond at ddibenion gweinyddu y bydd Boom Cymru ac S4C yn defnyddio’r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru y gallwch eu gweld drwy ymweld â’r wefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd. Gellir dod o hyd i Bolisi Preifatrwydd S4C yn www.s4c.cymru/privacypolicy.shtml