Dyma dy gyfle di i greu Tŷ Gwyliau dy freuddwydion! Gall fod yn dŷ gwyliiau I seren bop… neu’n garafan thema pêl-droed! Ma’i fyny i ti!
🖨️ Cer ati i greu llun o’r newydd, neu argraffu llun lliwio o fan hyn
Cyfle i ennill pentwr o nwyddau celf a chrefft, Comic Hydref Cyw, a llyfrau Parc Glan Gwil!
Ebostiwch eich lluniau i cyw@s4c.cymru, neu bostio i Rhadbost Cyw cyn hanner dydd ddydd Gwener 9 Hydref, pob lwc!
Rheolau’r gystadleuaeth
Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
Rhaid i’r plant sy’n ymddangos yn y lluniau fod o dan 16 oed i gystadlu. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion, dosbarthiadau ac ysgolion cyfan.
I gystadlu mae angen I’r plentyn ddylunio/creu llun neu lliwio llun o’I ty gwylie delfrydol. Bydd angen postio (RHADBOST CYW) neu drwy e-bostio cyw@s4c.cymru.
Os oes llun plentyn yn y llun, yna bydd angen I ni sicrhau ein bod wedi derbyn caniatâd gan riant/gwarchodwr yr hawl I ddangos y llun ar Ddolenni, Gwefan a Chyfryngau Cymdeithasol Cyw ac S4C.
Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a’r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
Cyhoeddir yr enillwyr ar yr Awr Fawr a gwefan a chyfrifon cymdeithasol Cyw ar y 9ed o Hydref, 2026.
Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner dydd, y 9fed o Hydref 2026.
Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan Gyflwynwyr Cyw. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
Bydd un enillydd yn derbyn hamper o lyfrau a nwyddau celf a chrefft – gan 3 o lyfrau Parc Glan Gwil, copi Comic Cyw yr Hydref, papur lliw, cas Crayola llawn pensiliau lliw a peniau ffelt. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
Nid yw’r Cwmni yn cymryd cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd.
Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
Dim ond at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth y bydd Boom Cymru ac S4C yn defnyddio’r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru y gallwch eu gweld drwy ymweld â’r wefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd. Gellir dod o hyd i Bolisi Preifatrwydd S4C yn www.s4c.cymru/privacypolicy.shtml
Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r gystadleuaeth yna cysylltwch â thîm Cyw yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.
Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan y rhai a dangynrychiolir, gan gynnwys plant ifanc anabl a phlant o gefndiroedd ethnig amrywiol.