Llongyfarchiadau i’n enillwyr ni, Elisa, Seren a Mabon!

RHEOLAU CYSTADLEUAETH OG Y DRAENOG HAPUS
- Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru, HighLight PR (cwmni cynhyrchu’r gyfres), a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth ac eu teuluoedd agos.
- Rhaid i ymgeiswyr fod o dan16 oedi gystadlu.
- I gystadlu, rhaid anfon llun cymeriad Og y Draenog Hapus neu unrhyw un o’r cymeriadau sy’n ymddangos yn y gyfres, a’i anfon i gyfeiriad e-bost Cyw sef cyw@s4c.cymru neu ei anfon yn y post i Rhadbost Cyw.
- Bydd 3 enillydd yn derbyn pecyn o nwyddau Cyw, yn ogystal a nwyddau masnachol a ddarparir gan y cwmni cynhyrchu.
- Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
- Dyddiad cau y gystadleuaeth yw11:59am ar ddydd Mawrth 7fed Chwefror 2023
- Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ol y dyddiad a’r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
- Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd cyn y dyddiad cau.
- Cyhoeddir yr enillwyr ar Awr Fawr Cyw, ar ddydd Gwener yr 17eg o Chwefror, 2023, ac ar gyfrifon Cymdeithasol Cyw y diwrnod hwnnw.
- Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
- Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr.
- Nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
- Dehonglir cymryd rhan yn y gystadleuaeth fel ymrwymiad i’r rheolau hyn. Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r defnydd o’ch data personol cyfeiriwch at bolisi preifatrwydd y Cwmni [https://www.cwmnida.cymru/polisi-preifatrwydd/] a pholisi preifatrwydd S4C http://www.s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/16717/polisi-preifatrwydd/
- Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Cystadleuaeth yna cysylltwch â chriw Boom, cyswllt – Sara Hampson-Jones: 02920 550 588 / sara.hampson-jones@boomcymru.co.uk
- Os oes plentyn mewn llun neu fideo, byddwn yn cysylltu a chi i sicrhau caniatâd i ddangos y lluniau ar ddarllediad teledu a gwefan Cyw. Os na fyddwn yn gallu sicrhau’r caniatâd yma, ni fydd y llun yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o’r gystadleuaeth.