Llongyfarchiadau mawr i Llŷr a Mabod, Lois ac Erin ac Enfys – enillwyr ein cystadleuaeth lluniau mynd am dro! Diolch i bawb anfonodd luniau aton ni, mae llond trol o gystadleuthau eraill i chi yma ar wefan Cyw!

Rheolau

  1. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
  2. Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu.
  3. I gystadlu mae rhaid i unigolion ebostio llun ohonynt yn mynd am dro i cyw@s4c.cymru.
  4. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a’r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
  5. Cyhoeddir yr enillydd ar yr Awr Fawr  a gwefan a chyfrifon cymdeithasol Cyw ar y 9fed o Fai, 2022
  6. Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner dydd, Ebrill 29ain, 2022.
  7. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
  8. Bydd y tri unigolyn buddugol yn derbyn pecyn o nwyddau Cyw. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
  9. Nid yw’r Cwmni yn cymryd cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd.
  10. Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
  11. Dim ond at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth y bydd Boom Cymru ac S4C yn defnyddio’r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru y gallwch eu gweld drwy ymweld â’r wefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd. Gellir dod o hyd i Bolisi Preifatrwydd S4C yn www.s4c.cymru/privacypolicy.shtml
  12. Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
  13. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r gystadleuaeth yna cysylltwch â thîm Cyw yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.
  14. Os oes plentyn mewn llun / fideo, byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatâd i ddangos y lluniau ar ddarllediad teledu a gwefan Cyw. Os na fyddwn yn gallu sicrhau’r caniatâd yma, ni fydd y llun yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o’r gystadleuaeth.
  15. Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan y rhai sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys plant ifanc anabl a phlant o gefndiroedd ethnig amrywiol