Cystadleuaeth ‘Nôl i’r Ysgol
Llongyfarchiadau i’n enillwyr!
Dyma nhw, Malen, Elis a Cêt a Gruff, da iawn chi!

RHEOLAU CYSTADLEUAETH NOL I’R YSGOL 2023
- Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru, a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth ac eu teuluoedd agos.
- Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oedi gystadlu.
- I gystadlu, rhaid anfon llun o’r plentyn ar eu diwrnod cyntaf nôl yn yr ysgol, a’i anfon i gyfeiriad e-bost Cyw sef cyw@s4c.cymru neu ei anfon yn y post i Rhadbost Cyw.
- Bydd 3 plentyn yn derbyn bag sach Cyw, llyfr Cyw yn yr Ysgol, sticeri, poster a chardiau cyflwynwyr.
- Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
- Dyddiad cau y gystadleuaeth yw11:59 am ar ddydd Gwener 15fed Medi 2023
- Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a’r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
- Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd cyn y dyddiad cau.
- Cyhoeddir yr enillwyr ar Awr Fawr Cyw, ar yr 22ain o Fedi 2023, ac ar gyfrifon Cymdeithasol Cyw y diwrnod hwnnw.
- Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
- Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr.
- Nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
- Dehonglir cymryd rhan yn y gystadleuaeth fel ymrwymiad i’r rheolau hyn. Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r defnydd o’ch data personol cyfeiriwch at bolisi preifatrwydd S4C http://www.s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/16717/polisi-preifatrwydd/
- Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r gystadleuaeth yna cysylltwch â chriw Boom, cyswllt – Beth Tame: 02920 550 573 / beth.tame@boomcymru.co.uk
- Os oes plentyn mewn llun neu fideo, byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatâd i ddangos y lluniau ar ddarllediad teledu a gwefan Cyw. Os na fyddwn yn gallu sicrhau’r caniatâd yma, ni fydd y llun yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o’r gystadleuaeth.
- Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan y rhai sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys plant ifanc anabl a phlant o gefndiroedd ethnig amrywiol.