Llongyfarchiadau i Cedri a Lleucu, Guto, a Gweni – enillwyr cystadleuaeth wynebau gwirion Cacamwnci! Diolch i bawb anfonodd lun aton ni, roedden nhw’n ddoniol iawn!

 

Dyma rhai o’r wynebau gorau i’n cyrraedd ni hyd yn hyn!

RHEOLAU CYSTADLEUAETH CACAMWNCI

  1. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan  S4C, Boom Cymru, HighLight PR (cwmni cynhyrchu’r gyfres), a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth ac eu teuluoedd agos.
  2. Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oedi gystadlu.
  3. I gystadlu, rhaid anfon llun o’r plentyn yn gwneud gwyneb gwiron, a’i anfon i gyfeiriad e-bost Cyw sef cyw@s4c.cymru neu ei anfon yn y post i Rhadbost Cyw.
  4. Bydd 3 enillydd yn derbyn pecyn o nwyddau, yn cynnwys whoopee cushion, gêm ‘Pie face,’ llyfr Jôcs y Lolfa, Sbectol wirion a phecyn Cyw.
  5. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
  6. Dyddiad cau y gystadleuaeth yw11:59am ar ddydd Gwener 21ain Ebrill 2023
  7. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ol y dyddiad a’r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
  8. Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd cyn y dyddiad cau.
  9. Cyhoeddir yr enillwyr ar Awr Fawr Cyw, ar ddydd Gwener yr 28ain o Chwefror, 2023, ac ar gyfrifon Cymdeithasol Cyw y diwrnod hwnnw.
  10.  Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
  11. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr.
  12. Nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
  13. Dehonglir cymryd rhan yn y gystadleuaeth fel ymrwymiad i’r rheolau hyn. Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r defnydd o’ch data personol cyfeiriwch at bolisi preifatrwydd y Cwmni https://boomcymru.co.uk/polisiau-preifatrwydd-boom-cymru/ a pholisi preifatrwydd S4C http://www.s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/16717/polisi-preifatrwydd/
  14. Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
  15. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Cystadleuaeth yna cysylltwch â chriw Boom, cyswllt – Sara Hampson-Jones: 02920 550 588 / sara.hampson-jones@boomcymru.co.uk
  16. Os oes plentyn mewn llun neu fideo, byddwn yn cysylltu a chi i sicrhau caniatâd i ddangos y lluniau ar ddarllediad teledu a gwefan Cyw. Os na fyddwn yn gallu sicrhau’r caniatâd yma, ni fydd y llun yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o’r gystadleuaeth.