I ddathlu Dydd Miwsig Cymru ar y 4ydd o Chwefror, mae cyfle i ennill pecyn Cyw! Anfonwch fideo ohonoch chi’n canu neu yn dawnsio i’ch hoff gân Cyw i cyw@s4c.cymru neu ewch i’r wefan i’w anfon drwy’r ffurflen yma!

Dyddiad Cau: Chwefror 18, 12:00 – pob lwc!

Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan y rhai sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys plant ifanc anabl a phlant o gefndiroedd ethnig amrywiol.

 

 

 

  1. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
  2. Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu.
  3. I gystadlu mae rhaid anfon fideo dim mwy na thri munud a hanner ohonoch chi yn canu neu;n dawnsio i un o ganeuon oddi ar wefan Cyw drwy anfon neges drwy’r wefan (https://www.s4c.cymru/cy/cyw/oedolion/page/42780/anfon-neges-at-cyw/ ) neu drwy ebostio cyw@s4c.cymruerbyn y dyddiad cau.
  4. Dewisir tri enillydd sydd wedi cysylltu i gystadlu erbyn y dyddiad a’r amser cau.
  5. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a’r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
  6. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar wefan Cyw, Awr Fawr a chyfrifon gwefannau cymdeithasol Cyw ar yr 25ain o Chwefror, 2022. Bydd y gwobrau’n cael eu hanfon at yr enillwyr cyn gynnted â phosib.
  7. Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner dydd, yr 18fed o Chwefror.
  8. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
  9. Y wobr fydd pecyn Cyw. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
  10. Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd.
  11. Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
  12. Dim ond at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth y bydd Boom Cymru ac S4C yn defnyddio’r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru y gallwch eu gweld drwy ymweld â’r wefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd. Gellir dod o hyd i Bolisi Preifatrwydd S4C yn www.s4c.cymru/privacypolicy.shtml
  13. Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
  14. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Gystadleuaeth yna cysylltwch â Betsan Wyn Morris neu Branwen Gwyn yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.
  15. Os oes plentyn mewn llun, byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatâd i ddangos y lluniau ar ddarllediad teledu a gwefan Cyw. Os na fyddwn yn gallu sicrhau’r caniatâd yma, ni fydd y llun yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o’r gystadleuaeth