Llongyfarchiadau i’n enillwyr, Begw a Llyr, Lowri a Heledd, Bjorn a Huw ac Ifan, a’r ysgol fuddugol yw Ysgol Ysbyty Ifan!

Diolch i bawb wnaeth anfon llun mewn i gystadlu hefyd!

 

Rheolau:

  1. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
  2. Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion, dosbarthiadau ac ysgolion cyfan.
  3. I gystadlu mae rhaid i unigolion ebostio llun ohonynt wedi gwisgo fyny fel cymeriad o lyfr Cymraeg, neu yn dal eu hoff lyfr Cymraeg, i cyw@s4c.cymru. Mae rhaid i ddosbarthiadau ac ysgolion anfon llun o’r plant i gyd wedi gwisgo i fyny.
  4. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a’r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
  5. Cyhoeddir yr enillydd ar yr Awr Fawr a gwefan a chyfrifon cymdeithasol Cyw ar yr 17eg o Fawrth, 2023.
  6. Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner dydd, y 10ed o Fawrth 2023.
  7. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
  8. Bydd y tri unigolyn buddugol yn derbyn pecyn o lyfrau Cymraeg. Bydd y dosbarth neu ysgol fuddugol yn derbyn ymweliad gan Fardd Plant Cymru. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
  9. Nid yw’r Cwmni yn cymryd cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd.
  10. Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
  11. Dim ond at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth y bydd Boom Cymru ac S4C yn defnyddio’r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru y gallwch eu gweld drwy ymweld â’r wefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd. Gellir dod o hyd i Bolisi Preifatrwydd S4C yn www.s4c.cymru/privacypolicy.shtml
  12. Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
  13. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r gystadleuaeth yna cysylltwch â thîm Cyw yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.
  14. Os oes plentyn mewn llun / fideo, byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatâd i ddangos y lluniau ar ddarllediad teledu a gwefan Cyw. Os na fyddwn yn gallu sicrhau’r caniatâd yma, ni fydd y llun yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o’r gystadleuaeth.