
Llongyfarchiadau i’n enillwyr – Gruff, Dion a Lwsi ac Anwen a Kodhai!
- Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru TV Cyf (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
- Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu.
- I gystadlu, mae angen anfon fideo, dim mwy na dwy funud o hyd, ohonoch chi yn dawnsio drwy ebostio cyw@s4c.cymruerbyn y dyddiad cau.
- Bydd gan y Cwmni ac S4C yr hawl i ddarlledu eich cais (boed yn llwyddiannus neu beidio) ar unrhyw blatfform yn fyd eang yn ddigyfyngiad ac am byth.
- Mae’n rhaid i bob plentyn sydd yn y fideo gael caniatad rhiant neu warcheidwad i ymddangos ynddo. Byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatâd i ddangos y fideo ar unrhyw blatfform. Os na fyddwn yn gallu sicrhau’r caniatâd hwn, ni fydd y fideo yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o’r gystadleuaeth.
- Criw cynhyrchu Cyw bydd yn dewis tri enillydd sydd wedi cysylltu i gystadlu erbyn y dyddiad a’r amser cau.
- Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a’r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
- Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar Awr Fawr Cyw, ar gyfrifon Facebook a Twitter Cyw ar 31ain o Fawrth, 2023.
- Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner dydd, 24ain Mawrth, 2023.
- Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
- Mi fydd pob enillydd yn ennill pecyn Cyw. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
- Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd.
- Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
- Dim ond at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth y bydd Boom Cymru ac S4C yn defnyddio’r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru y gallwch eu gweld drwy ymweld â’r wefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd. Gellir dod o hyd i Bolisi Preifatrwydd S4C yn www.s4c.cymru/privacypolicy.shtml
- Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Gystadleuaeth yna cysylltwch â Chriw Cynhyrchu Cyw yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.