Anfonwch lun gwyneb gwirion aton ni am y cyfle i ennill het NEWYDD SBON Soseeeeej! Y cyntaf i’r felin, felly peidiwch ag oedi! Ebostiwch cyw@s4c.cymru
| Lawnsio CYSTADLEUAETH |
DYDDIAD CAU |
CYHOEDDI ENILLWYR A DANGOS LLUNIAU AR AWR FAWR |
| Awr Fawr Dydd Gwener 03 Ebrill 2026 |
18.00 3ydd Ebrill |
Gwen 10/04 |
| Awr Fawr Dydd Gwener 10 Ebrill 2026 |
18.00 10fed Ebrill |
Gwen 17/04 |
| Awr Fawr Dydd Gwener 17 Ebrill 2026 |
18.00 17eg Ebrill |
Gwen 24/04 |
Rheolau’r Gystadleuaeth
- Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
- Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu.
- I gystadlu mae rhaid i unigolion neu rhiant neu warchodwyr ebostio llun gwyneb gwirion ohonynt i cyw@s4c.cymru
- Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a’r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
- Cyhoeddir yr enillwyr (5 bob diwrnod) ar yr Awr Fawr, gwefan Cyw a chyfrifon cymdeithasol Cyw ar y dyddiau isod :
| Lawnsio CYSTADLEUAETH |
DYDDIAD CAU |
CYHOEDDI ENILLWYR A DANGOS LLUNIAU AR AWR FAWR |
| Awr Fawr Dydd Gwener 03 Ebrill 2026 |
18.00 3ydd Ebrill |
Gwen 10/04 |
| Awr Fawr Dydd Gwener 10 Ebrill 2026 |
18.00 10fed Ebrill |
Gwen 17/04 |
| Awr Fawr Dydd Gwener 17 Ebrill 2026 |
18.00 17eg Ebrill |
Gwen 24/04 |
- Bydd y gystadleuaeth yn cau am 18.00 ar ddiwrnod lawnsiad pob cystadleuaeth.
- Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
- Bydd 5 enillydd bob dydd Gwener ar y dyddiadau a nodir uchod yn derbyn het Sosej Awr Fawr. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr ac nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
- Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap
- Nid yw’r Cwmni yn cymryd cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd.
- Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
- Dim ond at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth y bydd Boom Cymru ac S4C yn defnyddio’r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Pholisi Preifatrwydd Boom Cymru sydd ar gael â’r wefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd. Gellir ddod o hyd i Bolisi Preifatrwydd S4C ar www.s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/polisi-preifatrwydd
- Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r gystadleuaeth yna cysylltwch â thîm Cyw yn Boom Cymru ar 029 22450 203 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.
- Trwy gystadlu rydych yn sicrhau eich bod wedi derbyn caniatâd gan riant/gwarchodwr i ddangos y llun ar yr Awr Fawr, gwefan Cyw a chyfrifon cymdeithasol Cyw
16 Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan y rhai a dangynrychiolir, gan gynnwys plant anabl a phlant o gefndiroedd ethnig amrywiol.