Am gyfle i ennill poster Cyw, anfownch eich gwaith celf aton ni!

Tynnwch lun o Cyw, neu un o’r anifeiliaid, llun o’ch hun neu eich hoff le, unrhyw beth chi eisiau! Ebostiwch lun o’r gwaith celf i cyw@s4c.cymru neu rhowch nhw yn y post am ddim i RHADBOST CYW, a falle bydd eich gwaith celf chi ar Cyw! Neu am y cyfle i ennill pecyn ysgol o nwyddau Cyw, anfonwch nhw fel ysgol neu gylch meithrin.

 

 

Rheolau Cystadleuaeth – Lluniau Celf

1. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.

2. Rhaid i ymgeiswyr fod yn oedran cynradd neu iau i gystadlu. Mae’r gystadleuaeth yn agored i unigolion, cylchoedd meithrin ac ysgolion cynradd. 3. I gystadlu mae rhaid ebostio llun o waith celf plentyn i cyw@s4c.cymru neu bostio’r llun am ddim i RHADBOST CYW

4. Bydd y Cwmni yn dewis lluniau ac yn eu darlledu ar Dolenni Cyw ar y penwythnos. Bydd pob ymgais llwyddiannus gan unigolyn yn derbyn poster Cyw a bydd phob Ysgol Gynradd neu Gylch Meithrin yn debyg Pecyn Ysgol o nwyddau Cyw.

5. Cysylltir â’r ymgeiswyr drwy ebost i ddweud os bydd eu lluniau yn cael eu darlledu a byddent yn derbyn poster.

6. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.

7. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.

8. Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd.

9. Nid oes dyddiau cau i’r gystadleuaeth.

10. Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.

11. Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.

12. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Gystadleuaeth yna cysylltwch â Betsan Morris yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.

13. Byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatad rhiant / gwarchodwr i ddangos y llun(iau) hyn ar ddarllediad teledu, gwefan a chyfrifon cymdeithasol Cyw os oes plentyn yn y llun. Byddwn yn cysylltu ag ysgolion a chylchoedd meithrin i sicrhau bod rhiant / gwarchodwr yr holl unigolion

sy’n ymddangos yn y llun wedi arwyddo polisi cyfryngau cymdeithasol a darlledu yr ysgol neu gylch meithrin. Os na fyddwn yn gallu sicrhau’r caniatad yma, ni fyddwch yn cael eich cynnwys yn y gystadleuaeth.

14. Mae’r wybodaeth rydych yn darparu i’r Cwmni yn cael ei gasglu a’i brosesu yn unol â deddfau Rheoli Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru sydd ar gael ar ein gwefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd/ neu gallwch ofyn am gopi ysgrifenedig; ynghyd â pholisi preifatrwydd S4C http://www.s4c.cymru/media/media_assets/2018.11.29_Hysbysiad_Preifatrwydd_Cyfranwyr.pdf

Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan y rhai sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys plant ifanc anabl, a plant o gefndiroedd gwahanol.