Cystadleuaeth Talent-iau

 Oes gen ti ddawn i ddeud jocs, yn dda am jyglo neu wrth dy fodd yn dawnsio disgo? Beth bynnag dy dalent, ‘da ni eisiau ei weld e! Gyrra fideo aton ni yn dangos dy dalent ac efallai mai chdi fydd yn ymddangos ar yr Awr Fawr

Cyw a'i Ffrindiau

Hoffech chi weld plant eich dosbarth, meithrinfa, Cylch Ti a Fi neu Cylch Meithrin ar Cyw?
Cysylltwch â ni, a byddwn ni’n anfon tegan meddal Cyw neu un o’r anifeiliaid eraill i’ch lleoliad chi!

Cystadleuthau wedi cau

Cystadleuaeth ‘Nôl i’r Ysgol

Anfonwch lun o’ch plentyn yn barod i fynd i’r ysgol ar eu diwrnod cyntaf ‘nôl i cyw@s4c.cymru am gyfle i ennill nwyddau Cyw!

Cystadleuaeth Creu Cymeriad Deian a Loli

Dyma eich cyfle CHI i greu cymeriad unigryw  ar gyfer y gyfres nesa fydd yn cael ei ffilmio yn 2025!