Cyw a’i ffrindiau o wasanaeth plant lleiaf S4C yw sêr y cylchgrawn lliwgar hwn, ac mae’r 48 tudalen yn llawn dop o weithgareddau hwyliog (sydd hefyd yn addysgiadol) ar gyfer plant ifanc hyd at chwech oed.
Bydd cyfle i ddysgu am lythrennau a rhifau wrth chwarae, chwerthin a dysgu. Bydd storïau, syniadau am weithgareddau creadigol, cyfle i goginio (gyda help oedolyn wrth gwrs!), a llond lle o sticeri.
Law yn llaw â’r cylchgrawn, mae gwefan arbennig fydd yn cynnig cyfieithiad o’r holl gylchgrawn – rhoi cyfle i’r di-Gymraeg glywed y storïau yn cael eu darllen yn y Gymraeg.