Croeso i fyd y Cywion Bach lle mae llawer o swigod i’w popio, tedis i’w cwtsho, afalau i’w bwyta, anifeiliaid i’w clywed a cherbydau i’w gyrru!
Mae’r profiad cyd-chwarae diogel, hwylus hwn wedi’i gynllunio i gyflwyno ystod o eiriau cyntaf Cymraeg i blant bach cyn oedran ysgol o 0-3 mlwydd oed, ac i’w rhieni a’u gwarchodwyr wrth iddyn nhw ddysgu Cymraeg ochr yn ochr â’u plant.
Mae’r ap yn cynnig profiad tegan rhyngweithiol – gan gyflwyno 24 gair, eu llythrennau a’u cyd-destun mewn ffordd liwgar ac atyniadol.
Croeso i Ap Antur Cyw, lle i blant ddysgu, chwarae a chael hwyl.
*Nawr ar gael gydag opsiynau iaith Cernyweg a Llydaweg*
Gwyliwch holl raglenni gwasnaeth plant bach S4C Cyw mewn awyrgylch saff a lliwgar.
Mae’r ap wedi ei ddylunio yn arbennig ar gyfer plant bach felly gallwch fod yn dawel eich meddwl bod y profiad yn hawdd i fysedd bychain ei ddefnyddio ac y bydd y cynnwys yn addas i blant 0-6 oed.
Mae’r ap am ddim, heb hysbysebion a does dim angen mewngofnodi.
Mae Ap Byd Cyw yn gyfle i arwain eich plentyn trwy fyd llawn hwyl a lliw wrth gyd chwarae a darganfod gyda’ch gilydd.
Mae’r ap yn cynnwys gemau, cerddoriaeth a chymeriadau byd Cyw i gadw cwmni i’ch plentyn a’u tywys ar antur. Gall eich plentyn hefyd wrando ar stori fin nos o fewn yr ap.