Byddwch yn barod am Annibendod gyda Anni!

Cyfres am ferch ifanc ddrygionus o’r enw Anni yw Annibendod… a ble bynnag mae Anni, mae annibendod!
Rhywsut neu’i gilydd mae hi’n llwyddo i fod yng nghanol pob hap, damwain, ffrwgwd neu broblem sy’n codi yn yr ysgol, ei chartref neu ar fferm ei chefndryd.
Ble bynnag mae Anni ac annibendod mae Bochau, bochdew Anni. Nid creadur swil a thawel mohono, o na!  Mae Bochau’n llawn hwyl, drygioni ac wrth ei fodd yn bwyta sbrowts, canu a dawnsio. Mae mor hoff o berfformio, mae’n cloi pob pennod gyda chân!

Cyflwyniad i’r Caneuon

Mae caneuon hwyliog y gyfres ‘Annibendod’ yn cyflwyno geirfa bwrpasol yn ôl thema/themâu pob pennod, ynghyd â phatrymau iaith defnyddiol y gellid eu defnyddio bob dydd.

 

Fel arweiniad a chymorth i’r rheiny sy’n dysgu’r Gymraeg, i gyd-fynd â phob cân unigol, nodir:

  • geirfa yn ôl thema
  • geirfa gyffredinol
  • patrymau iaith
  • cyfieithiad Saesneg ar gyfer pob agwedd.

 

Mwynhewch y daith o ddysgu’r iaith gyda Anni a Bochau!